Hunaniaeth o’ch Dewis

Read this post in English here.

Yn sgil sylwadau angharedig yn newyddion diweddar y Deyrnas Unedig, mae’r iaith Gymraeg wedi bod yn bwnc o ddiddordeb cyhoeddus, ac oherwydd taw Mawrth 1af yw Dydd Gŵyl Dewi Sant, dw i wedi cael fy symbylu i feddwl am hunaniaeth Gymreig.

Ni fyddaf yn anrhydeddu’r sylwadau yna gyda dolenni ond, does dim dwywaith amdani, mae pethau o’r fath yn digwydd trwy’r amser. Bron gyda rheoleidd-dra tabl y llanw, mae rhywun mewn awdurdod neu sydd â megaffon yn y cyfryngau yn dweud rhywbeth ffôl am y Gymraeg. Efallai ffrae lleol, er enghraifft rheolwr mewn bwyty sy’n rhoi gorchymyn i weithwyr i beidio â siarad Cymraeg. Efallai rhywbeth yn fwy dramatig, fel swyddog corfforaethol i siop gadwyn sy’n gwawdio’r Gymraeg fel “gibberish”. Neu hyd yn oed rhywbeth mor hyll â newyddiadurwr o fri cenedlaethol sy’n dweud bod yr iaith heb werth ac yn dirboeni gyda “tortured spellings”.

Anwybodaeth a dallbleidiaeth yw’r cyfan. Ond pam? Pam cymaint o atgasedd at iaith?

Beth yw iaith, yn y diwedd, ond llais a rennir gan ddiwylliant? Mae ‘na ganrifoedd ar ganrifoedd o lenyddiaeth Gymraeg; y llawysgrif hynaf sydd gennym yw Llyfr Du Caerfyrddin, sydd bron 800 mlwydd oed. Mae gennym draddodiad o farddoniaeth sy’n parhau hyd heddiw, sy’n eithriadol yn ei harddwch, ei ffraethder, ei nerth. Mae gennym emynyddiaeth hynod sy wedi mynegi dymuniadau angerddol miliynau o bobl ers cannoedd o flynyddoedd; mae nifer o emynau annwyl Cymraeg ar arfer ledled y byd mewn cyfieithiadau Saesneg.

Pam na ddylen ni roi bri ar yr iaith hon? Pam na ddylai hi fyw? Pam na ddylai pobl eisiau a gallu byw ynddi? Maen nhw wastad wedi gwneud, wedi’r cwbl.

Dw i’n credu taw hunaniaeth yw’r ateb.

Gan ei bod hi’n llais a rennir gan ddiwylliant, bydd unrhyw iaith neu dafodiaith yn clymu gyda hunaniaeth, a mynegi’r hunaniaeth, wrth raid. A dyma’r peth am rai pobl, am rai pobl drawsarglwyddol, cydffurfiol, blinderus: Maen nhw’n cael eu bygwth gan hunaniaethau gwahanol na’u hunaniaeth eu hunain. Mae angen arnynt gredu yn eu rhagoriaeth eu hunain, drwy wybod neu heb wybod, ac felly maen nhw’n methu adnabod hunaniaeth wahanol. Mewn gwirionedd, maen nhw eisiau i bawb ymostwng i ddominyddiaeth eu hunaniaeth eu hunain a’i chofleidio fel norm anorfod.

Mae trasiedi’r patrwm wedi sefydlu’n gryf. Yn y 19eg ganrif yn yr Unol Daleithiau, cafodd Americaniaid Brodorol ifanc eu gyrru i ysgolion byrddiol er mwyn chwalu eu hetifeddiaeth a’u trochi yn niwylliant a chrefydd Ewropaidd gwyn. Heddiw yn Tsieina, mae miloedd a miloedd o Uyghurs dan glo mewn gwersylloedd carchar er mwyn cael eu pwylltreisio i adael eu credau diwylliannol, crefyddol, a gwleidyddol. Ac ym Mhrydain ym 1847, cafwyd yr adroddiad drwgenwog ar gyflwr addysg yng Nghymru a dywedodd: “The Welsh language is a vast drawback to Wales and a manifold barrier to the moral progress of the people.”

Mae’n ddiddorol dros ben, on’d ydy, bod pobl bwerus wastad yn meddwl bod angen ar bobl eraill newid, cydymffurfio, ymddarostwng?

Dw i’n credu’n hollol bod hi’n bosib i rannu hunaniaeth bositif sy’n croesi ffiniau ieithyddol neu ddiwylliannol. Yr un Unol Daleithiau a anfonodd yr Americaniaid Brodorol ifanc i gael eu hail-addysgu yn bobl wyn mae hefyd wedi’i ymrwymo i egwyddorion yn y Datganiad Annibyniaeth, sef ein bod ni gyd wedi cael ein creu yn gyfartal, a bod gennym hawliau na ellir eu newid, gan gynnwys bywyd, rhyddid, dilyn hapusrwydd. Byddai ymrwymo’n hollol i’r egwyddorion yna, a’u gwneud yn wir i bawb mewn gwirionedd, wir yn hunaniaeth hardd i’w rhannu.

Fel hynny, dw i hefyd yn credu bod gwledydd yn gallu creu hunangysyniad ystyrlon drwy aberth rhanedig; er enghraifft, dw i’n credu bod syniad ystyrlon o hunaniaeth Brydeinig yn bosib, sy’n dod drwy brofiadau rhanedig fel y DU yn tynnu at ei gilydd yn ystod yr Ail Ryfel Byd, neu greu Gwasanaeth Iechyd Gwladol, neu dynnu trwy’r pandemig COVID-19. Mae cydweithio a solidariaeth yn sylfeini cryf i hunaniaeth ranedig, bositif.

Yn anffodus, mae ‘na fath arall o Brydeindod sy’n cael ei arddangos heddiw, sy ddim yn newydd, a ddim yn bositif. Mae’n gorfodi cydymffurfio ag egwyddorion Seisnig, Torïaidd. Mae’n mynnu bod hunaniaethau ar wahân i Seisnigrwydd-fel-Prydeindod yn penlinio a bihafio. Mae’n edrych ar Brydain Fawr a gweld Lloegr Fawr.

Mae hen athrawiaeth o’r enw “supersessionism” wedi bod yn bwysig i theologyddiaeth Gristnogol ers talwm, ond erbyn hyn yn cael ei ailystyried. Y syniad canolog oedd bod Cristnogaeth a’i Gyfamod Newydd wedi cymryd lle’r Iddewon a’r Hen Gyfamod. Gydag amser mae’r syniad yma wedi cael ei ddefnyddio am amcanion gwrth-Semitaidd amrywiol, a dyma rheswm mawr i’w ailystyried.

Wrth ystyried hunaniaeth a Phrydeindod a dallbleidiad gwrth-Gymraeg, dyma fi’n meddwl am supersessionism a’i ganlyniadau dros y canrifoedd. Yn sicr, mae supersessionism wedi bod yn declyn nerthol ar gyfer rhesymoli rhagoriaeth un hunaniaeth a’i hawl dybiedig i ddominyddu neu ddisodli un arall. Yn fy marn i, mae supersessionism wedi bod yn ddarn cyfansoddol pwysig o’r sylfaen ddeallusol i drefedigaethedd ac ymerodroldeb Ewropaidd. Bydda i’n dyfynnu dwy esiampl sy’n arbennig o drawiadol.

Mae’r Unol Daleithiau’n cynnig llawer o esiamplau, gyda’i gymysgedd eithriadol o drefedigaethedd Ewropaidd a chrefydd ddinasaidd sy’n tarddu o’r Piwritaniaid, ond mynd yn ôl i’r Pilgrims ar y Mayflower yw’r modd mwyaf uniongyrchol i egluro. Yn eu hysgrifau, datganon nhw eu hunain yn Israel newydd, ar ecsodws i gyrraedd Gwlad yr Addewid. Credon nhw iddynt ddisodli Israel yn etifeddion addewidion Duw, ac y byddant yn sefydlu Jerusalem Newydd yng Ngogledd America. Ar ben hynny, mae’r coel yma bod yr Unol Daleithiau yn genedl arbennig, a ddewiswyd gan Dduw am dynged arbennig, yn sefyll yng nghanol dealltwriaeth llawer o Gristnogion Americanaidd o “American exceptionalism” a’r rôl y maen nhw’n credu y dylai eu math o Gristnogaeth gyflawni mewn cymdeithas.

Yr ail esiampl yw’r emyn Saesneg o’r enw “Jerusalem“, sy’n dod o gerdd gan William Blake. I fod yn hael, mae’r emyn ond yn dychmygu, ac anelu at adeiladu, cymdeithas gyfiawn, a defnyddio “Jerusalem” i gyfeirio ati (fel rhai emynau eraill). Eto i gyd, dw i’n methu dianc teimlad o supersessionism ynddo. Wedi’r cwbl, mae Jerusalem yn ddinas go iawn; mae hi eisoes yn bodoli. Felly mae’n rhaid i adeiladu Jerusalem bellach fod yn adeiladu Jerusalem newydd, a dyna’r rheswm bod adeiladu “Jerusalem in England’s green and pleasant land” yn teimlo’n fwy penodol i mi na metafforau crefyddol Saesneg eraill fel “balm in Gilead” neu “chilly Jordan”. Ar ben hynny, dw i’n credu bod arwyddocâd dealledig yr emyn yn helpu esbonio’r rheswm i’r emyn ddod yn berthnasol i Ddydd Sant Siôr. Yn debyg i ddefnydd iaith grefyddol yn yr Unol Daleithiau, mae’r emyn yn cyfosodi gwladgarwch Seisnig a gobaith Cristnogol, mewn modd sy’n fy nharo i fel un anochel supersessionist.

Mewn cyferbyniad, dyma’r pennill cyntaf o’r emyn gwladgarol, cynhwysol o’r enw “This is My Song“:

This is my song, O God of all the nations,
a song of peace for lands afar and mine;
this is my home, the country where my heart is;
here are my hopes, my dreams, my holy shrine:
but other hearts in other lands are beating
with hopes and dreams as true and high as mine.

Mae ‘na wahaniaeth mawr rhwng cysyniad allangaeol wedi’i seilio ar oruchafiaeth a dadleoliad, a chysyniad cynhwysol wedi’i seilio ar werthfawrogi amrywiaeth a dilysrwydd hunaniaethau lluosog. Ac er i mi beidio â rhoi bai ar yr emyn “Jerusalem” yn benodol, dw i’n credu bod defnydd iaith yr emyn, a defnydd yr emyn ei hunan, yn ddadlennol. Maen nhw’n cadarnhau fy mwhynt am Seisnigrwydd-fel-Prydeindod: Mae rhywbeth bron yn dotalitaraidd ynddo, sef sêl brawychus at gyffredinoli. Os mae pobl yn cymryd bod y sêl yna yn rhywbeth naturiol, cyfiawn, moesol — wel, does dim syndod bod y bobl yna yn edrych ar Gymraeg a gweld “tortured spellings”, dim byd ond lol.

Pe tasech chi’n meddwl y dylai pobl fod wrthi’n siarad Saesneg ac adeiladu Jerusalem Newydd yn “England’s green and pleasant land”, efallai byddai’n hawdd i chi benderfynu taw eu llawnfrydwch ar ran eu hiaith a’u gwlad yw “manifold barrier to the moral progress of the people” — gan fod rhwystr i’r bobl yna gytuno â bod yn fwy tebyg i chi.

Pe tasech chi’n meddwl eich bod yn gwladychu’r Byd Newydd ac adeiladu Jerusalem Newydd, fel pobl a ddewiswyd gan Dduw, byddai wir yn hawdd i chi benderfynu taw y bobl sydd eisoes yn trigo yno, sydd â diwylliannau ac ieithoedd a chrefyddau eu hunain –yw’r broblem y mae’n rhaid i chi ei datrys.

A dyna pam dw i’n meddwl taw hunaniaeth yw’r pwynt. I hunaniaethau sy’n honni eu goruchafiaeth a gorfodi unffurfiaeth, does dim lle i unrhywun arall. Does dim dewis gyda phobl sy’n craffu ar hunaniaeth o Seisnigrwydd-fel-Prydeindod, ac eithrio dirmygu ac allanoli’r Gymraeg. Mae eu hunaniaeth nhw’n gorchymyn ymddarostyngiad. Mae’n gorchymyn cydymffurfiad.

Does dim rheswm da dros hynny. Mae Saesneg yn bwerus yn fyd-eang, mewn diwylliant a masnach a gwyddoniaeth, ac mae ganddi ei thraddodiad llenyddol hardd a chlodwiw ei hun. Dyw’r Gymraeg ddim yn bygwth y Saesneg o gwbl. Ond mae rhai pobl — y bobl drawsarglwyddol, cydffurfiol, blinderus — yn teimlo dan fygythiad gan ei bodoliaeth. Ei hadlamedd. Ei pharhâd.

Fel mae’r anthem yn dweud: O bydded i’r hen iaith barhau!

Dw i’n meddwl bod dysgu Cymraeg, siarad Cymraeg, amddiffyn y Gymraeg, yn gallu bod yn fynegiannau unigryw nerthol o hunaniaeth Gymreig. Nid yn unig oherwydd y diwylliant a thraddodiad llenyddol; mae hunaniaeth Gymreig hefyd yn gallu bod yn hunaniaeth o aberth rhanedig. O galedi rhanedig. Y gwaith caled rhanedig o amddiffyn rhywbeth gwerthfawr rhag rywbeth pwerus. Y gwaith caled rhanedig o amddiffyn hawl pobl i obeithio a breuddwydio a charu a byw yn yr iaith a ddewisant — hyd yn oed iaith Dewi Sant.

Ac mae cymryd rhan yn y gwaith yna yn cynnig hunaniaeth rhanedig sydd, yn fy marn i, yn werth ei dathlu.

3 thoughts on “Hunaniaeth o’ch Dewis

Leave a reply to Jen Cancel reply