An original poem, in Welsh.
O wâl y berth, bob nos o dan y sêr,
yn llawn nerth, draw ar hyd y llwybrau cudd,
daw ysbryd hynod, teg ar orchwyl pêr
a ddysgwyd ar y cof ers llawer dydd.
Mor swil ei wedd, oes oesoedd dan ei draed,
mae’r ysbryd yn ymroi ei hun i’w rwyd,
yn arolygu pob un dim a gaed,
yn gweini’r Drefn wrth bori am ei fwyd.
Fe flasai ar bob cegaid sawrus, llaith
a ddarganfyddir dan y lleuad fân
a rhoddai anrheg mewn mesurau caeth,
pe tasai’n dod o hyd i galon lân.
I’r bardd di-gwsg daw awdl mewn breuddwyd mwyn,
melawd hardd i’r cerddor yn eilio cân;
i’r proffwyd taer daw’r seraff bach o’r llwyn
â marwor cochion Nef o’r allor-dân.
Fe ddaw ag angerdd i’r pregethwr gwyw
sydd ar ei liniau dros gyfiawnder pur;
â gobaith hefyd i’r eneidiau briw
a lenwyd â galar ers amser hir.
Mynegâi ef Efengyl, cam wrth gam,
gan rochian dedwyddus a phigog groen,
ei lygaid yn tanio â fflach o fflam,
mawl i’r Hen Ddihenydd yn llenwi’r ffroen.
Yn enw’n Harglwydd, dros feysydd a ffyrdd
ar rygyng nesa’r ysbryd gyda rhodd;
yn cadw gwylnos ei serenol Urdd,
â chynrhon ac odlau mae wrth ei fodd:
Daw draenog gyda’r nos dros borfa las
A cherdded â cherddi i erddi Gras.
