Read this post in English here.
Dw i’n siarad Cymraeg. Dw i’n ei siarad er gwaetha byw yn yr Unol Daleithiau. Mae’r rhan fwyaf o bobl — gan gynnwys pobl Gymreig — yn synnu ar hyn.
Fe ddechreuais astudio’r Gymraeg pan oeddwn i yn y prifysgol. Fe ges i set o CDs a dechrau gwrando arnyn nhw yn y car, ac roedd cwpl o lyfrau ymarferion gyda fi. Mewn gwirionedd, roeddwn i’n methu cario ymlaen gyda’r iaith, ac felly dw i ddim yn cyfrif hyn yn “swyddogol”.
Yn swyddogol, dw i’n dweud y dechreuais astudio’r Gymraeg pan oeddwn i wir yn dechrau ei dysgu, sef pan oeddwn i’n byw yn Phoenix ac roedd y Welsh League of Arizona yn cynnal dosbarth un noson o’r wythnos. Es i ymlaen i astudio drwy gyrsiau gan Gymdeithas Madog, sef y Welsh Studies Institute in North America. Gwnes i gymryd rhan hefyd mewn cwrs trochi “Uwch” yn Nant Gwrtheyrn, sy’n ganolfan iaith Gymraeg enwog yng Ngogledd Cymru. (Mae Cymdeithas Madog a Nant Gwrtheyrn yn cynnig opsiynau i ddysgu ar y we, os oes diddordeb gyda chi.)
Mae’r rhesymau i mi ddysgu Cymraeg yn bersonol. Mewnfudodd fy hynafiaid Cymreig i’r Unol Daleithiau ychydig fwy na chanrif a hanner yn ôl. Roedd fy hen-hen-hen dad-cu yn ymysg y dorf a ddaeth o gymoedd De Cymru er mwyn rhoi cynnig ar weithio yn niwydiant cloddio glo America. Does dim llawer o ddogfennau gyda ni ond mae rhywfaint, a’r esboniad tebygol yw’r un cyffredin, syml: Dymuno bywyd gwell ac efallai sbario’r disgynyddion o’r dynged o lafuro yn y pyllau glo.
Ar ôl pwyso a mesur, y cynllun oedd yn llwyddiant.
Mae’r gymuned siarad Cymraeg yn rhagorol o gyfeillgar a chroesawgar. Mae ‘na ddiwylliant eang o ddathlu dysgwyr, sy’n gwrthgyferbynnu ag ystrydebau snobyddlyd sydd efallai yn perthyn i ieithoedd eraill. Mae pob cwrs yr ydw i wedi’i fynychu gyda Chymdeithas Madog wedi bod yn brofiad hyfryd, codi calon. Gwnaeth y cwrs yn Nant Gwrtheyrn newid fy mywyd i’n hollol, gan ddangos fy mod i wir yn gallu meddwl a byw yn Gymraeg. (Diolch yn fawr iddyn nhw am groes-postio’r blog.)

Ar ôl mwy na phymtheg mlynedd, dw i’n ei siarad yn rhesymol o dda. Dw i wedi llwyddo mewn cael fy nghamgymryd am frodor, mewn rhyngweithiadau achlysurol yng Nghymru. Eto i gyd, dw i’n gwneud gwallau yn aml. (Siŵr o fod, mae gwallau yn y post yma.) Pan dw i wedi gwneud yr ambell gyfweliad ar deledu neu radio Cymraeg, dw i wedi bod yn ddiolchgar iawn am dderbyn y cwestiynau o flaen llaw, heb sôn am ryfeddodau golygu. Mae llawer o eiriau yn anghyfarwydd i mi, neu fy mod i’n eu hanghofio weithiau. Dw i’n gallu gyrru fy hunan i frest y wal achos fy mod i ddim yn meddwl yn Gymraeg mor rhugl â Saesneg, ac bydd meddylion cymhleth yn rhedeg i ffwrdd oddi wrthyf.
Dw i ddim yn gwybod ai oedd fy hynafiaid yn Gymry Gymraeg. Oherwydd gorthrymder hanesyddol yr iaith, a’r ffactorau sydd wedi cyfrannu at ddirywiad yr iaith, nid yw’n amhosibl nad oeddent. Yn ystod y 19eg ganrif, aeth eu rhan nhw o Gymru oddi siarad Cymraeg, i siarad Cymraeg a Saesneg, i siarad Saesneg yn unig — llanw mawr ieithyddol yn mynd allan.
Penderfynais i ddysgu Cymraeg achos fy mod i’n hoffi’r syniad o adennill rhan o’m etifeddiaeth, gan siarad iaith bod pobl grymusol wedi ceisio ers canrifoedd gwneud i ni beidio â’i siarad. Ychydig o flynyddoedd yn ôl, pan oeddwn i’n ymweld â mynwent lle claddwyd fy hynafiaid yn America, siaradais i Gymraeg dros eu beddau nhw. Hyd yn oed pe tasai Cymraeg yn cael ei siarad gan fy nheulu i yn y gorffennol, yn ôl pob tebyg byddai canrif neu fwy ers i rhywun wneud hynny.
Pe tasen nhw’n Gymry di-Gymraeg, byddwn i’n dychmygu taw hwnna oedd y tro cyntaf.
Yn fwy diweddar, un o’n cyfeillion siarad Cymraeg a argymhellodd fi a fy ngwraig i gyfaill ei hun, sef cyhoeddwr. Mae Bradan Press yn cyhoeddi cyfres o lawlyfrau i bobl sydd â diddordeb mewn tatŵs ieithoedd Celtaidd, ac roedd eisiau ychwanegu Cymraeg i’r rhestr. Meddyliodd ein cyfaill ni y bydden ni’n gwneud gwaith da, a gwnaeth y cyhoeddwr hoffi ein gweledigaeth o’r prosiect. Felly, ar ôl cwpl o flynyddoedd o waith caled, mae’r Welsh Tattoo Handbook wedi cael ei gyhoeddi!
Yn fy marn i, mae rhywun â diddordeb mewn tatŵ Cymraeg eisiau cysylltu ag etifeddiaeth, yn debyg i mi siarad yn Gymraeg yn y mynwent. Dw i’n hapus helpu iddyn nhw wneud hynny a defnyddio’r iaith yn gywir. Ond yn fwy na hynny, dw i’n credu taw dysgu Cymraeg, yn ei ffordd ei hun, yw math o datŵ Cymraeg i’r meddwl. Dweud y peth yn wahanol, rydym yn gallu cymharu â chrair annwyl o dad-cu neu fam-gu — wats, breichled, ffotograff. Tocyn yw e — o gysylltiad, o berthyn.
Mae siarad Cymraeg yn debyg i gymryd eich lle mewn ffoto mawr teuluol, ffoto o deulu sydd wedi dioddef cymaint, ond hefyd sydd yma o hyd, yn tyfu o hyd.
Mae llawer mwy i’w ddweud am fy mhrofiad i gyda’r iaith Gymraeg a’i theulu hynod. Am nawr, mae’n ddigon i mi ddweud ei bod hi’n werth dysgu ieithodd lleiafrifol. Mae’n werth eu dathlu nhw. Mae’n werth byw ynddyn nhw.
Dw i’n gobeithio, er gostyngedig y bo’r llyfr, y bydd y Welsh Tattoo Handbook yn annog ychydig o bobl i ymddiddori yn yr iaith, i roi cynnig arni. Mae Cymraeg yn hardd dros ben. Ein genedigaeth-fraint yw hi.
Mae genedigaeth-fraint yn werth ei hymladd amdani.